100 Gair o Obaith

scroll-down

Rydyn ni’n annog y gynulleidfa i gymryd rhan y tu hwnt i’r noson ei hun. Byddwn yn gofyn i grwpiau cymunedol sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig i gyfrannu “100 Gair o Obaith”.

Mewn 100 gair, bydd gofyn iddynt ddisgrifio eu gobeithion am y dyfodol. Yna, bydd y geiriau’n cael eu plethu mewn i brofiad EYE Cymru fel rhan o’r seinwedd. Bydd y bobl sy’n cyfrannu’r geiriau yn cael eu gwahodd i’r sioe fel gwestai arbennig.